Rhif y ddeiseb: P-06-1383 

Teitl y ddeiseb: Dylid oedi prosiectau solar a gwynt ar y tir dros 10 MW hyd nes y caiff potensial llawn ynni gwynt ar y môr ei gynnwys

Geiriad y ddeiseb:  

Er mwyn atal difrod diangen ar raddfa eang yng nghefn gwlad Cymru, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi moratoriwm ar bob datblygiad dros 10 MW ar gyfer ynni gwynt ar y tir ac ynni solar a osodir ar dir, nes y caiff Cymru’r Dyfodol 2040 a thargedau ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru eu diweddaru a’u hymgorffori yn Ynni Morol Cymru i sicrhau bod potensial llawn gwynt ar y môr, solar ar ben toeau, a ffynonellau ynni eraill sy’n dod i’r amlwg yn cael ei gydnabod fel blaenoriaeth hollbwysig ar gyfer brwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Ar hyn o bryd, mae Cymru’n cynhyrchu 30 awr Terra-Watt (TWh) o ynni (gyda 55 y cant o hynny’n dod o ynni adnewyddadwy), a dim ond 14 TWh y mae’n eu defnyddio. Fodd bynnag, amcangyfrifir y bydd y galw yn cynyddu i 45 TWh erbyn 2050.
Mae gan Gymru botensial enfawr o ran ynni gwynt ymhell ar y môr (yn sefydlog ac yn arnofiol)—rhagwelir y bydd prosiectau ynni gwynt arfaethedig ym Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd cynhyrchu o leiaf 100 TWh o ynni gyda’i gilydd.
Amcangyfrifir hefyd y gallai hyd at 50 y cant o’r ynni a ddefnyddir yng Nghymru ddod o solar ar ben toeau tai, busnesau a meysydd parcio dan do.
Ac eto, nid yw potensial llawn ynni gwynt ar y môr na solar ar ben toeau yn cael ei gyfrif ym mholisi Llywodraeth Cymru.  Cydnabu’r Gweinidog Newid Hinsawdd i Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig nad yw hynny’n digwydd, gan nodi nad yw’r ddogfen bolisi, Cymru’r Dyfodol, wedi cael ei diweddaru mewn tair blynedd.  Rydym yn galw am i bolisi gael ei ddiweddaru i gynnwys potensial llawn ynni gwynt ar y môr, solar ar ben toeau a thechnolegau eraill sy’n dod i’r amlwg, a hynny er mwyn sicrhau ein bod yn aberthu cyn lleied o gefn gwlad a thir amaeth â phosibl.

 


1.        Cefndir

1.1.            Y sefyllfa bresennol o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth i ddatgarboneiddio’r sector ynni a chyflymu datblygiad ynni adnewyddadwy, sef Cyllideb Carbon Sero Net Cymru 2 (2021-25) (“y Cynllun Sero Net”), ar 28 Hydref 2021. Mae’r Cynllun Sero Net yn amlinellu’r camau y mae angen i Lywodraeth Cymru (ac eraill) eu cymryd, dros y pum mlynedd nesaf, i leihau’r ddibyniaeth ar danwyddau ffosil a lleihau’n sylweddol allyriadau nwyon tŷ gwydr y sector ynni. Mae hefyd yn cymryd golwg tymor hwy, gan edrych tuag at y targed sero net erbyn 2050.

Yn 2022, roedd 95,047 o brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac roedd tua 59 y cant o alw Cymru am drydan yn cael ei ddiwallu o ffynonellau ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Roedd 897MW o gapasiti ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol yng Nghymru, sef 90 y cant o’r targed 1GW. Mae'r adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2022 gan Lywodraeth Cymru yn rhoi rhagor o wybodaeth. Mae Adroddiadau Blynyddol Cynhyrchu Ynni yng Nghymru ar gael ers 2016.

1.2.          Gwynt ar y môr

Mae gwynt ar y môr yn dechnoleg ynni adnewyddadwy sefydledig a phrofedig. Mae tair fferm wynt weithredol ar y môr oddi ar arfordir Gogledd Cymru, sef: Gwynt y Môr, Gwastadeddau’r Rhyl a North Hoyle.

Mae technolegau gwynt ar y môr sy'n arnofio (FLOW) yn cyfuno technoleg y llwyfannau a ddefnyddir yn y diwydiant olew a nwy, a thyrbinau gwynt. Mae hyn yn golygu y gall tyrbinau gwynt gael eu rhoi mewn dyfroedd dyfnach ble mae cyflymder y gwynt yn fwy, a chael llai o effaith weledol. Mae Llywodraeth y DU am ddatblygu 5GW o FLOW erbyn 2030 fel rhan o  Strategaeth Diogelwch Ynni Prydain.

Mae’r Môr Celtaidd, sef yr ardal rhwng de Cymru, Iwerddon a Chernyw, yn anhygoel o wyntog, ond yn rhy ddwfn ar gyfer tyrbinau gwaelod sefydlog traddodiadol. Mae Ynni Morol Cymru yn hwyluso’r gwaith o ddatblygu FLOW yn y Môr Celtaidd, gan ddweud y gall ddarparu 24GW o ynni a miloedd o swyddi. Mae'n amlygu y dylai datblygiad FLOW fod yn “gyflym” i gyflawni uchelgeisiau sero net, felly mae Ystad y Goron yn cynnig cyfleoedd prydlesu yn y Môr Celtaidd ar gyfer prosiectau FLOW.

1.3.          Solar ar doau

Mae adroddiad cynnydd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU ym mis Mehefin 2023 ar leihau allyriadau yng Nghymru wedi canfod bod capasiti ynni adnewyddadwy Cymru wedi cynyddu dros amser ond mae’r gyfradd gosod pŵer solar wedi arafu ers 2016.

Mae hawliau datblygu a ganiateir yn caniatáu gosod offer microgynhyrchu, gan gynnwys paneli solar ar doeau ar eiddo domestig ac annomestig yng Nghymru, heb orfod gwneud cais cynllunio. Pan nad yw meini prawf penodol yn cael eu bodloni byddai angen cais cynllunio.

Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi hysbysiad hwylus ar gynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach  sy'n darparu rhagor o wybodaeth.

1.4.          Y fframwaith cynllunio

Cymru'r Dyfodol, a gyhoeddwyd yn 2021, yw Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac mae statws cynllun datblygu iddo. Mae'n nodi polisïau cynllunio strategol Llywodraeth Cymru ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys ynni adnewyddadwy.

Mae Polisi Cynllunio Cymru (PPW) yn parhau i fod yn brif ddatganiad polisi cynllunio Llywodraeth Cymru ac yn parhau’n berthnasol i bob agwedd ar y broses gynllunio. Mae Cymru’r Dyfodol yn cymhwyso egwyddorion allweddol Polisi Cynllunio Cymru ac yn sefydlu ble yng Nghymru y dylai datblygiad ddigwydd, a sut.

Gellir adolygu Cymru'r Dyfodol unrhyw bryd, fodd bynnag mae’n cynnwys gofyniad statudol am adolygiad o leiaf bob pum mlynedd. Fe’i lluniwyd o dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015) sy'n ymestyn i'r tir yng Nghymru yn unig, i lawr at y marc distyll. Felly ni all Cymru'r Dyfodol gyfeirio at wynt ar y môr. Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn gosod polisi ar gyfer defnyddio’r môr mewn modd cynaliadwy.

1.5.          Y drefn gydsynio ar gyfer seilwaith ynni

Mae’r Cynllun Sero Net yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn “gwella ac yn uno” y broses o ganiatáu prosiectau cynhyrchu ynni yng Nghymru er mwyn cynnig cyfundrefn gydsynio gyflymach a mwy cymesur ar gyfer seilwaith ynni.

Cyflwynwyd Bil Seilwaith (Cymru) gerbron y Senedd ar 12 Mehefin 2023. Mae’r Bil yn diwygio’r ffordd y caiff seilwaith ei gydsynio yng Nghymru, drwy sefydlu proses unedig a elwir yn Gydsyniad Seilwaith, ar gyfer mathau penodol o seilwaith mawr a elwir yn Brosiectau Seilwaith Arwyddocaol. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau ynni ar dir ac yn y môr o amgylch Cymru (a elwir yn ‘ardal forol Cymru).

Gellir dod o hyd i gyhoeddiadau allweddol Ymchwil y Senedd i gefnogi’r gwaith craffu ar y Bil ar y dudalen hon, a fydd yn cael ei diweddaru wrth i’r Bil fynd ar ei hynt drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

2.1.          Targedau ynni adnewyddadwy

Ym mis Medi 2017, pennodd Llywodraeth Cymru dargedau ar gyfer ynni adnewyddadwy:

§    Cymru i gynhyrchu 70 y cant o'r trydan mae’n ei ddefnyddio o ynni adnewyddadwy erbyn 2030;

§    1 GW o gapasiti trydan adnewyddadwy yng Nghymru i fod yn eiddo lleol erbyn 2030; a

§    Disgwyl i brosiectau ynni adnewyddadwy newydd gael elfen, o leiaf, o berchenogaeth leol.

Hefyd, mae'r Rhaglen Lywodraethu 2021-26 yn cynnwys ymrwymiad i “ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru i lefel dros 100MW erbyn 2026”.

Yn gynharach yn 2023, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar yr adolygiad o’i thargedau ynni adnewyddadwy. Mewn ymateb i’r ddeiseb hon, cyfeiriodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, at y sylfaen dystiolaeth a oedd yn cefnogi’r ymgynghoriad, a oedd yn nodi’n glir “na allwn ddibynnu ar un math o ffynhonnell ynni adnewyddadwy i gefnogi ein hanghenion ynni hirdymor”, gan ddweud:

Ynni gwynt, ynghyd â solar yw'r technolegau mwyaf aeddfed ac mae'r rhain yn debygol o wneud y cyfraniad mwyaf arwyddocaol i'n hanghenion ynni yn y tymor byr i’r tymor canolig. Rydym yn rhagweld y bydd llawer o hyn ar y môr, ond bydd angen rhagor o gynhyrchu ar y tir

Yn dilyn ymgynghoriad, cyhoeddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd fwriad Llywodraeth Cymru i fabwysiadu targed i Gymru gyrraedd yr hyn sy’n cyfateb i 100% o’r defnydd blynyddol o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Mae’r Grŵp Her Sero Net Cymru 2035 wedi'i greu er mwyn edrych yn fanwl ar lwybrau posibl i gyrraedd sero net erbyn 2035.

Ym mis Hydref 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i sefydlu datblygwr ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth gyhoeddus, i ddatblygu prosiectau ynni gwynt ar ystad goetiroedd Llywodraeth Cymru.

2.2.        Gwaith ymchwil manwl ar ynni adnewyddadwy

Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n cynnal gwaith ymchwil manwl i ynni adnewyddadwy i nodi rhwystrau i gynyddu ynni adnewyddadwy'n sylweddol yng Nghymru a chamau i'w goresgyn. Cyhoeddwyd canlyniad y gwaith ymchwil manwl, a oedd yn cynnwys cyfres o argymhellion, ym mis Rhagfyr 2021. Mae Llywodraeth Cymru ers hynny wedi cyhoeddi dau ddiweddariad bob chwe mis ar argymhellion a ddeilliodd o’r gwaith ymchwil manwl.

2.3.        Ymateb i’r ddeiseb

Mewn ymateb i’r ddeiseb hon, mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd yn dweud nad cyfyngu’r rhyddid i unrhyw un gyflwyno cais cynllunio ar gyfer pa bynnag ddatblygiad arfaethedig… yw’r ffordd orau ymlaen. O’r herwydd nid yw’r Gweinidog yn cefnogi’r alwad am foratoriwm ar ffermydd gwynt ar y tir neu solar gan fod ganddynt rôl bwysig o hyd yn y gymysgedd ynni ar gyfer y dyfodol.

Mae’r Gweinidog yn amlygu:

…a number of key levers that the offshore wind industry need lie in the hands of the UK Government. Without a supportive framework from the UK Government, I have concerns that the offshore wind sector will not provide the electricity generation and economic opportunities we know it can.

 

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Ddiwedd 2021 cynhaliodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd ymchwiliad byr i ynni adnewyddadwy. Mae’r Erthygl hon gan Ymchwil y Senedd yn rhoi trosolwg o ganfyddiadau'r Pwyllgor, a diweddariad ar argymhellion y gwaith ymchwil manwl.

Hefyd ar ddiwedd 2021, ystyriodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ddatblygiad ynni morol fel rhan o’i ymchwiliad i reoli’r amgylchedd morol. Mae'r Pwyllgor wrthi'n craffu ar Fil Seilwaith (Cymru).

Ysyriwyd y ddeiseb P-06-1339 Dylid creu gofyniad bod paneli solar yn cael eu gosod ar bob cartref newydd yng Nghymru, a hynny fel amod o sicrhau caniatâd cynllunio yn ddiweddar.

Ym mis Mehefin 2023 cyfeiriodd y Gweinidog at y mater o’i gwneud yn ofynnol i gael paneli solar, a hynny mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau o’r Senedd ar adroddiad cynnydd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU y cyfeiriwyd ato’n gynharach yn y papur briffio hwn.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.